• Catalogue
  • Booklets
  • Training
  • EggsBanner

A ydych yn adnabod plentyn a gyflawnodd rywbeth anhygoel dros hawliau plant? Enwebwch ef neu hi!

Rhoddir Gwobr Heddwch Plant Rhyngwladol yn flynyddol i blentyn sy’n brwydro’n ddewr dros hawliau plant yn unrhyw le o amgylch y byd.

Os gwyddoch am blentyn sydd gan hanes anhygoel i’w adrodd ac sy’n ymroddedig i wireddu hawliau plant, enwebwch ef neu hi ar gyfer Gwobr Heddwch Plant Rhyngwladol. Cyflwynwch eich enwebiad cyn Mawrth 17eg!

Defnyddiwch y ffurflen ynghlwm i enwebu plentyn ac e-bostiwch y ffurflen gyflawn at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Am fwy o wybodaeth am y wobr a meini prawf enwebu, ewch ar ein gwefan a hoffwch ein tudalen Facebook neu dilynwch ni ar Twitter.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch o’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn. (Saesneg yn unig)

 

Gofalwyr Ifanc

Your local council has a responsibility to ensure that your duties as a carer do not interfere with your education, development, and overall quality of life. They must also ensure that you do not become trapped in your role as a carer.  Find out more about Young Carers

 

 

Hanes datganoli yng Nghymru

Gellir olrhain gwreiddiau datganoli yng Nghymru yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1886, sefydlwyd Cymru Fydd i hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac ymgyrchu o blaid “ymreolaeth” i Gymru. Er mai byrhoedlog fu llwyddiant Cymru Fydd, cyd-darodd ei weithgareddau â datblygiadau gwleidyddol eraill oedd yn berthnasol i Gymru, fel pasio Deddfau a oedd yn gymwys i Gymru’n benodol, am y tro cyntaf yn Senedd y DU. Roedd hefyd yn cyd-daro â chychwyn datganoli gweinyddol yng Nghymru drwy sefydlu Bwrdd Addysg Cymru ym 1907.  Mwy o wybodaeth Hanes datganoli yng Nghymru

St John Cymru Wales

Pobl ifanc yw'n dyfodol, ac mae St John Cymru yn falch o ddarparu llawer o gyfleoedd a rhaglenni datblygu i unigolion rhwng 5 a 25 oed. Mae'r rhaglenni hyn yn helpu i addysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol, maent yn gyfle i wneud ffrindiau ac ymgymryd â heriau newydd cyffrous. Mae St John Cymru yn sefydliad ieuenctid mawr ac mae dros hanner o'n 4,500 o wirfoddolwyr o dan 18 oed. Gall unigolion gofrestru i fod yn ‘Badger’ neu'n ‘Cadet’, ac mae llawer o'n haelodau hŷn yn symud ymlaen i fod yn Arweinwyr Ieuenctid gan chwarae rôl hanfodol yn natblygiad ein pobl ifanc.

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2016 Llywodraeth Cymru
YF logo white  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo