• Booklets
  • EggsBanner
  • Catalogue
  • Training

Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru

Beth yw Y ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru?

Fframwaith ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant i bob agwedd ar lunio penderfyniadau, polisi ac ymarfer.

 

Mae’r canllaw, sydd wedi’i greu gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gyda chyngor arbenigol gan Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru (ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor), yn annog gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad i ymrwymo i CCUHP a gwella sut maen nhw’n cynllunio ac yn darparu eu gwasanaethau.

Mae e ar gael i lawrlwytho yma.

 

Pam ddylwn i ddefnyddio’r fframwaith hwn?

Mae buddsoddi mewn hawliau dynol plant yn creu manteision gwirioneddol i sefydliadau: 

  • Bydd yn helpu cyrff sector cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau statudol.

  • Mae’n cyfrannu at alluogi mwy o blant a phobl ifanc i ymwneud yn well â gwasanaethau cyhoeddus.

  • Mae’n sicrhau bod ffocws gwirioneddol ar anghenion penodol plant y gall eu lleisiau gael eu collineu eu distewi

  • Mae’n creu amgylchedd lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i’w holl ddefnyddwyr.

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni.

 

Mae Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg  yng Nghymru ar gael i’w ddarllen yma.

 

*** Noder, mae'r adnoddau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiynydd Plant Cymru ***

 

Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr

Adnoddau newydd ar hawliau blant sydd yn addas i blant.

 

Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi lansio dau gyhoeddiad ar gyfer plant a phobl ifanc ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant.

 

Wedi'i ariannu gan Adran y DU dros Addysg, mae’r ddwy bamffled yn crynhoi'r Sylwadau Terfynol – Dyfarniad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant - mewn iaith sy'n addas i blant.  Mae un wedi ei anelu at blant iau rhwng 7 a 11 oed a'r llall ar gyfer plant rhwng 12 a 17 oed. Mae Gweinidog newydd y DU ar gyfer Plant a Theuluoedd, Robert Goodwill wedi ysgrifennu rhagair.

 

Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi gweithio gyda phlant yn Ysgol Iau Hove a'r grŵp llywio ‘Change It’! i gyd-gynhyrchu'r crynodebau i sicrhau eu bod yn hygyrch i blant o grwpiau oedran wahanol.  Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio'r adnoddau i weld sut mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar amrywion o faterion sy'n ymwneud â hawliau plant yn cynnwys gwneud yn siŵr bod plant yn cael lle gweddus i fyw, yn cael eu cadw'n ddiogel, yn cael addysg da ac yn cael llais.

 

Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer plant 7-11 oed yma

Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer 12-17 oed yma

 

Os hoffech dderbyn copi caled, e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

 

Noder fersiynau Saesneg yn unig o'r dogfennau sydd ar gael.

 

Wythnos Gwaith Ieuenctid – 23-30 Mehefin 2017

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid a phobl ifanc ddathlu effaith gwaith ieuenctid a'r hyn y mae'n ei gyflawni.  Bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, a bydd yr wythnos yn cael ei lansio yn Noson Gwobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd ar 23 Mehefin.

Ar 27 Mehefin, bydd y Senedd yn croesawu digwyddiad arddangos a fydd yn rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid hyrwyddo ac arddangos y gwaith da maent yn ei wneud gyda phobl ifanc Cymru. Os fyddwch yng nghyffiniau'r Senedd rhwng 10.30am a 3pm ar y diwrnod hwnnw, ewch draw i gael sgwrs â'r sefydliadau ac i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith, a sut y mae eu gwaith yn cefnogi ymrwymiadau a pholisïau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wythnos Gwaith Ieuenctid 

Thunderclap https://www.thunderclap.it/projects/57011-youth-work-week-wales

 

Digwyddiad i Bartneriaid y Gyfnewidfa Entrepreneuriaeth

Eich gwahoddiad i ymuno â ni am y Gyfnewidfa Entrepreneuriaeth

“Sut mae gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol i ddatgloi doniau entrepreneuraidd plant y Mileniwn?"

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei anelu at bartneriaid sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu dawn entrepreneuraidd yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle i ddysgu, rhannu syniadau â phartneriaid a gwella’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n cleientiaid, busnesau, addysg a’r gymuned ehangach. Byddem ni wrth ein bodd pe bai modd i chi neu gynrychiolydd o’ch sefydliad chi ymuno â ni am y digwyddiad hwn.

06 Mehefin 2017
Elephant and Castle
Newtown
SY16 2BQ
10.00am – 1.30pm

I gofrestru dilynwch y ddolen neu cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

PDF: Cyfnewiafa_Entrepreneuriaeth-Entrepreneurship_Exchange_.pdf

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2016 Llywodraeth Cymru
YF logo white  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo